P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg
Geiriad y deiseb
Cyflwynir y ddeiseb hon i achub Dechrau'n Deg Glyncorrwg.
Mae rhieni plant sy'n rhan o raglen Dechrau'n Deg, neu rieni sydd â phlant a fydd yn dod i'r oedran i gymryd rhan yn y rhaglen yn fuan wedi cael llythyrau sy'n nodi y bydd Dechrau'n Deg yn cael ei ddileu o'n cymuned ym mis Gorffennaf 2015.
Pam y dylai ein plant golli'r cyfle hwn? Mae Dechrau'n Deg yn gam pwysig ymlaen ar gyfer plant bach, i'w gosod ar y ris gyntaf yn eu haddysg ac yn barod i ddechrau yn yr ysgol. Mae hwn yn wasanaeth a ddarperir i bobl sy'n byw mewn 'ardaloedd o amddifadedd', a dyna ydym ni. Eto, mae'r gwasanaeth yn cael ei gymryd oddi arnom. Mae hwn yn gam annoeth.
.
Prif ddeisebydd: Sophie-Kate Reacord
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:
Nifer y deisebwyr:148 llofnod ar lein